Testun Yn Unig | Hwyluso Mynediad | English
Sut i gael hyd i ni

Stori Caerdydd,
Yr Hen Lyfrgell,
Yr Aes,
Caerdydd,
CF10 1BH

Tel: (+44) 029 2078 8334
cardiffstory@cardiff.gov.uk
Oriau agor

10 am–5 pm Dydd Llun - Dydd Sadwrn
10am – 4pm Dydd Sul
Ar Gau Dydd Llun Gŵyl y Banc.

Oriau agor y swyddfa:
9am-5pm, Dydd Llun - Dydd Gwener
Cardiff Council Visit Cardiff Heritage Lottery Fund
Bookmark and Share

Ymweld â Stori Caerdydd


View Larger Map

Oriau agor:
Os ydych chi am ymweld ag arddangosfa neu ddigwyddiad yn Amgueddfa Caerdydd, mae'r manylion diweddaraf ar y dudalen Digwyddiadau.

Fel arfer mae staff swyddfa Project yr Amgueddfa yno rhwng 9am a 4:45pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond gan ein bod yn dîm bychan efallai na fyddwn ni’n gweithio oddi yno bob tro, felly cofiwch gysylltu â ni’n gyntaf os ydych chi am drefnu apwyntiad i osgoi siwrnai ofer.

Sut i gyrraedd:
Mae’r Hen Lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd yn yr Aes . Mae’r brif fynedfa drwy‘r Ganolfan Groeso, ar Working Street.

Bws: mae’r arosfannau bws mwyaf cyfleus ar gyfer yr Hen Lyfrgell ar yr Heol Fawr /Heol Eglwys Fair a’r Aes. Mae’n cymryd rhyw ddeng munud i gerdded o’r Orsaf Fysus Ganolog.

Trên: Mae’n cymryd rhyw ddeng munud i gerdded o orsaf drenau ganolog Caerdydd a Heol-y-Frenhines.

Tacsi: ar ôl 11am gall y tacsi eich gollwng yn yr Aes.

Parcio: Ewch i www.cardiff.gov.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf am feysydd parcio canol y ddinas, a dilynwch y Ddolen Gyflym i’r adran Drafnidiaeth a Theithio – Parcio – Meysydd Parcio Ceir. Gallwch lwytho map sy'n dangos yr holl feysydd parcio.

Mynediad:
Mae’r mannau parcio Bathodyn Glas agosaf i’w cael ar waelod Heol Siarl (drwy Canolfan Siopa Dewi Sant i Working Street) neu Heol y Porth.

Mae gan yr Hen Lyfrgell ramp a grisiau ym mynedfa Canolfan Croeso Caerdydd/ Working Street. Mae’n rhwydd cyrraedd y toiledau yn ogystal. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad eraill cysylltwch â ni ac fe geisiwn eich rhoi ar ben ffordd.<<


 


ID: 526   Adolygwyd: 11/3/2010

Rhoi sylwadau am y dudalen hon

cardiffstory@cardiff.gov.uk