Testun Yn Unig | Hwyluso Mynediad | English
Sut i gael hyd i ni

Stori Caerdydd,
Yr Hen Lyfrgell,
Yr Aes,
Caerdydd,
CF10 1BH

Tel: (+44) 029 2078 8334
cardiffstory@cardiff.gov.uk
Oriau agor

10 am–5 pm Dydd Llun - Dydd Sadwrn
10am – 4pm Dydd Sul
Ar Gau Dydd Llun Gŵyl y Banc.

Oriau agor y swyddfa:
9am-5pm, Dydd Llun - Dydd Gwener
Cardiff Council Visit Cardiff Heritage Lottery Fund
Bookmark and Share

ARDDANGOS CYMUNEDAU CAERDYDD

Cheryl Knight

Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ddinas amlddiwylliannol gyda phobl o bob cwr o'r byd yn dod i fyw, gweithio ac astudio yn y brifddinas.

Fel rhan o Stori Caerdydd, bydd yr amgueddfa yn adlewyrchu delwedd amlddiwylliannol y ddinas a'r berthynas sydd gan y ddinas â'r byd.

Gwnaeth Cheryl Knight, 29 oed, ymuno â thîm Stori Caerdydd yn ddiweddar, fel Curadur Cymunedol. Rôl Cheryl yw sicrhau bod holl gymunedau Caerdydd yn cael eu cynrychioli yn y project.

Mae Cheryl yn egluro, "Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar adran sy'n edrych ar Gaerdydd a'r byd.  Mae adran hon o'r amgueddfa newydd yn mynd i drafod sut mae Caerdydd yn ddinas sy'n cynnwys llawer o gymunedau gwahanol, boed yn gymunedau ffydd neu ethnig. Mae Caerdydd yn nodedig am fod yn un o'r cymdeithasau amlddiwylliannol cyntaf ym Mhrydain a'r rheswm sylfaenol dros hynny yw gan fod dociau Caerdydd yn allforio miliynau o dunelli o lo o gymoedd y de i bob rhan o'r byd, roedd y llongau llawn pobl yn dychwelyd i'r porthladd i fyw a gweithio yn y ddinas.  Glo allan, pobl i mewn oedd hyn - yn llythrennol!"

"Ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif gwelwyd pobl o Tsieina, Yemen, Somalia, Iwerddon, Norwy a nifer o wledydd eraill yn cyrraedd Caerdydd i weithio yn y dociau ac mewn diwydiannau eraill. Arhosodd rhai, aeth eraill yn eu blaen, ond mae'r ffaith eu bod wedi bod yno wedi helpu i lunio'r ddinas ac wedi gwneud ardal y bae yn enwog dros y byd. Rwy'n awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd â stori am ymfudo i Gaerdydd i'w hadrodd."

Ynghyd â'r henoed a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol ar draws Caerdydd, mae Cheryl yn gweithio'n galed i sicrhau bod yr agwedd bwysig hon o hanes y ddinas yn cael ei chynnwys yn yr amgueddfa.  Ond mae'r tîm yn wynebu rhai anawsterau yn eu her!

"Yr hyn rydym yn ei weld yw er efallai bod gwybodaeth swyddogol i'w chael am gymuned, neu lawer o atgofion a straeon, mae'n anodd dod o hyd i ‘bethau' go iawn i'w defnyddio yn ein mannau arddangos i gynrychioli'r straeon a'r cymunedau hynny.  Gan fod yr adran hon yn edrych ar y cymunedau hanesyddol hynny a symudodd yma ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, mae llawer o'r pethau y daeth y mewnfudwyr hynny gyda nhw bellach wedi'u colli, eu difrodi'n wael neu wedi'u taflu."

"Byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sydd â rhywbeth yn eu hatig neu garej sydd wedi'u trosglwyddo yn eu teulu o genhedlaeth i genhedlaeth  o'r  mewnfudwyr cyntaf.  Y gist a gawsoch gan eich hen nain a ddaeth gyda hi o Iwerddon, neu'r sosban goginio a ddaeth gyda'ch cyndeidiau i'w helpu i ddechrau eu bywydau newydd yng Nghaerdydd."

Yn aml, y gwrthrychau sy'n cynrychioli straeon o symud i mewn ac ymgartrefu yn y ddinas yw pethau ‘bob dydd', ac mae'r tîm yn poeni bod gan bobl y gwrthrychau hyn, ond ddim yn sylweddoli sut y gellid eu defnyddio i ddweud yr hanesion pwysig hyn yn yr amgueddfa.  Cysylltodd Cymdeithas Cape Verde â'r amgueddfa yn ddiweddar er mwyn cynnig 'pilau pau' i'w arddangos.

Math o bestl a mortar yw ‘pilau pau', a ddefnyddir yn Cape Verde i baratoi ffa a chorn i'w defnyddio wrth goginio - mae'r enw yn deillio o Greole, yr iaith a siaredir yn Cape Verde. Cafodd ei roi i daid y perchennog, Nicky Delgado, gan forwr o Cape Verde oedd yn ymweld â Chaerdydd tua 1905, i'w ddefnyddio wrth wneud 'cachupa' - stiw a wneir o gynffonau a thraed moch gyda ffa. Mae Cachupa yn fwyd traddodiadol o Cape Verde sy'n dyddio'n ôl i ddyddiau caethwasiaeth.

Roedd taid Nicky yn un o nifer o drigolion Cape Verde a ymgartrefodd yng Nghymru - priododd â merch o Cape Verde yn y Barri, ac yna symudodd y ddau i Lan-yr-afon ond gwnaethant osgoi trychineb pan ddechreuodd terfysgoedd y porthladdoedd yn 1919 Dywedodd Nicky:

‘Roedd fy nhaid yng nghanol y terfysgoedd - yr unig ffordd y gwnaeth osgoi trais oedd drwy ddringo drwy ffenestr to yn y tŷ a dianc! Cyrhaeddodd Butetown yn y pen draw lle ddechreuodd tŷ llety yn y dociau. Daeth ei dŷ llety yn ganolbwynt i drigolion Cape Verdea yng Nghaerdydd, byddai pobl yn ymgynnull yno i chwarae cerddoriaeth, canu caneuon ac adrodd straeon am Cape Verde.'

Dociau Caerdydd, 1880sMae Nicky yn sôn bod y cymysgedd bywiog y bobl yn y bae yn ymdebygu i Cape Verde;

‘Mewn ffordd roedd bron fel ail-greu amlddiwylliannau Cape Verde - y gred yw bod yr ynysoedd yn un o'r mannau hwylio cyntaf i gaethweision Affrica pan gawsant eu darganfod a'u gwladychu gan bobl Portiwgal, ac roedd eu safle i'r gorllewin o linell hwylio'r Iwerydd yn denu morwyr o bob cwr o'r byd. Maent yn unigryw, ac yn Butetown roedd bron fel petai'n gylch llawn.'

Ychwanegodd Cheryl "Mae trigolion Cape Verde wedi chwarae rhan bwysig yn y ddinas a'r gred yw mai nhw oedd un o'r cymunedau ymfudo cyntaf i symud i Gaerdydd.  Yn ystod diwedd y 1800au roedd morwyr Cape Verde yn ymwelwyr aml â dociau Caerdydd ac ymsefydlodd llawer ohonynt yng Nghaerdydd gyda'u teuluoedd."

"Er bod hwn yn wrthrych syml yn Cape Verde, bydd y ‘pilau pau' yn hanfodol wrth sicrhau bod cymuned Cape Verde yn cael ei chynrychioli yn Stori Caerdydd. Mae'n werthfawr iawn wrth ein helpu i ddangos sut gwnaeth cymunedau ymfudo Caerdydd ymsefydlu a helpu i lunio'r ddinas, ac mae ganddo stori gefndir hyfryd i ddod â'r hanes hwn yn fyw.

Ynghyd ag adran Caerdydd a'r Byd, mae Cheryl hefyd yn gweithio ar ardal Arddangos Cymunedol yr amgueddfa. Gellir defnyddio ardal benodol ar gyfer grwpiau cymunedol lleol i arddangos eu harddangosiadau eu hunain er mwyn hyrwyddo gweithgareddau'r grŵp.  Er enghraifft, gallai grŵp crefft arddangos gwaith maent wedi'i greu yn ystod eu cyfarfodydd neu gall cymdeithas hanes leol arddangos treftadaeth eu hardal i gynulleidfa ehangach.

Eglurodd Cheryl, "Mae'r ardal Arddangos Cymunedol yn ffordd wych i ymwelwyr yr amgueddfa gael gwybodaeth am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws y ddinas gan amrywiaeth o grwpiau, a gobeithio y bydd yn eu hannog i ymuno a chymryd rhan hefyd."

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Caerdydd dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Nigel Howells: "Mae Caerdydd bob amser wedi bod yn gymdeithas amlddiwylliannol falch iawn ac mae'r rheiny sy'n symud i'r ddinas wedi chwarae rhan allweddol yn stori Caerdydd. Mae'n bwysig bod pob grŵp cymunedol sy'n byw yn y ddinas yn cael eu cynrychioli yn yr amgueddfa a hoffwn annog i bawb gysylltu â Cheryl i ganfod sut y gallant gymryd rhan yn y project."

Os oes gennych unrhyw wrthrychau, eitemau, ffotograffau neu straeon a fyddai'n addas i Cheryl neu os hoffech gymryd rhan yn yr ardal arddangos cymunedol cysylltwch â Cheryl ar 02920 788334 neu e-bostiwch: storicaerdydd@caerdydd.gov.uk

 

 


 


ID: 532   Adolygwyd: 22/4/2010

Rhoi sylwadau am y dudalen hon

cardiffstory@cardiff.gov.uk